Lluniau Ysgol ac Nadolig / School Photos and Christmas

Annwyl Rieni / Warchodwyr,

Diolch am gefnogi ein helusennau’r tymor hwn. Casglwyd £46 ar gyfer Apel Corwynt Hayian, £46 i Blant Mewn Angen a chyflwynwyd 30 bag o fwyd i Fanc Bwyd Casnewydd! Cefnogaeth Ardderchog yn wir! Newyddion cyffrous mae’r ystafell borffor wedi ei thrawsnewid diolch i gefnogaeth ein holl gymuned! Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

Hoffwn eich hatgoffa os fe fyddwch chi’n cyrraedd yn hwyr mae’n bwysig bod pawb yn dod drwy’r brif fynedfa nid mynedfa’r meithrin.

Lluniau Ysgol – 25/11/13 Os hoffech i frodyr / chwiorydd gael llun gyda’ch plentyn sydd yn Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon a fedrwch chi gysylltu â ni drwy e-bost erbyn y 21ain o Dachwedd. Dyma’r lluniau cyntaf a fydd yn cael eu tynnu – slot amser rhwng 8:45 9:30.

Ffair Nadolig – 13eg o Ragfyr 6:00 – 7:30 dewch i’n cefnogi. Eitemau / Cyfraniadau :- fe fyddwn ni’n casglu y potiau pwdinau “gu” i greu anrhegion ynghyd a pheli Nadolig. Manylion pellach i ddilyn.
Sioe Nadolig – 11/12/13 – Yn ystod bore’r sioe fe fydd addurn Nadolig i’w gososd ar fwrdd ar werth. Gwerthfawrogwn gyfraniadau o mins peis – danfonwch i’r ysgol erbyn y 9/12/13.

DVD Sioe Nadolig: Rydyn ni’n creu a gwerthu DVD o’r sioe Nadolig ynghyd â lluniau o’r plant yn eu gwisgoedd a negeseuon gan y plant i Sion Corn. Rydyn ni angen caniatâd gan bob rhiant i alluogi’r prosiect i fynd yn ei flaen. Os rydyn ni’n derbyn un gwrthwynebiad yna ni fyddwn yn parhau gyda’r prosiect. Fe fydd hwn yn anrheg Nadolig perffaith! Fe fydd y DVD yn costio £5. Os oes ganddoch chi wrthwynebiad i ni ffilmio eich plentyn yna e-bostiwch yr ysgol erbyn prynhawn Dydd Gwener (22/11/13) 3 o’r gloch yr hwyraf!

Cystadleuaeth Cardiau Nadolig – Peidiwch a thaflu eich cardiau Nadolig oherwydd rydyn ni’n mynd i fod yn rhan o gystadleuaeth ail-gylchu cardiau Nadolig. Gofynnwch i’ch teulu, ffrindiau a chymdogion i gadw eu cardiau ar eich cyfer ym mis Ionawr. Rydyn ni angen tua 650 o gardiau’r plentyn.

Diolch i pawb oedd yn bresennol Nos Llun, rydyn ni’n balch iawn o berffomiad ein disgyblion

Diolch am eich cydweithrediad

Yr eiddoch yn gywir,

Mrs Lona Jones-Campbell (Pennaeth)

children Playingchildren Playingchildren Playingchildren Playingchildren Playingchildren Playingchildren Playing class=children Playingchildren Playing

Dear Parents / Guardians

Thank you very much for supporting our charities this term. We raised £46 for the Hayian Typhoon Appeal, £46 for Children in Need and 30 bags of food were donated to the Newport Food Bank! Excellent support indeed! Exciting news indeed the purple room has been transformed thanks to the support of our whole community! Thank you very much to you all!

We would like to remind you if you arrive late it’s important that you use the main entrance not the nursery entrance.

School Photos – 25/11/13 If you wish photos of younger siblings to be taken with the children who attend Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon could you please notify the school via e-mail by the 21st of November. They will be the first photos to be taken – an early slot will given between 8:45 – 9:30.

CHRISTMAS FAYRE – 13th of December 6:00 – 7:30 please come and support us. Items / Donations for the fayre :- we will be collecting the little “gu” pudding glasses to create gifts as well as Christmas baubles. Further details to follow.

Christmas Show – 11/12/13 – During the children’s Christmas show there will be Christmas table arrangements for sale to raise funds for the school. Donations of mince pies would be very much appreciated – please send to school by 9/12/13

DVD of the Christmas Show: We will be creating and selling a DVD of the Christmas show along with photos of all the children in their costumes and special messages from the children to Santa. We need permission from all parents for this to take place. If we have one objection the project cannot go ahead. This will be an ideal Christmas gift! Cost of the DVD will be £5. If you do object for your child to be filmed could you please e-mail the school by Friday afternoon (22/11/13) – 3 o’clock at the latest!

Christmas Cards – Please don’t throw away any cards as we have entered a Christmas card recycling competition. Ask your family, friends and neighbours to keep their cards for you in January! We need 650 Christmas cards per child!!

Thanks to everyone who attended on Monday evening, we were very proud of our children’s performance.

Thank you for your co-operation.

Yours Sincerely,

Mrs Lona Jones-Campbell (Head Teacher)